Noson agored a sesiynau gwybodaeth Wythnos Prentisiaethau Cymru
Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ddathliad sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn dangos pam mae prentisiaethau yn benderfyniad athrylithgar i unigolion, cyflogwyr a gweithlu’r dyfodol.
Eleni, mae WP Cymru yn rhedeg o ddydd Llun 5 i ddydd Sul 11 Chwefror, ac mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i egluro a dathlu prentisiaethau:
Coleg yn dathlu Gwobrau Prentisiaeth 2023
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal seremoni wobrwyo arbennig fel rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ac Wythnos Prentisiaethau Cymru 2023.
Cynhaliwyd y digwyddiad arbennig, dan ofal Ross Harries o BBC Cymru Wales Scrum V Live, ar Gampws Tycoch i anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol prentisiaid a phartneriaid cyflogwyr y Coleg o bob rhan o Gymru a Lloegr.
Noson agored a sesiynau gwybodaeth prentisiaethau ar gyfer Wythnos Prentisiaethau
Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (NAW) 2023 yw’r 16eg dathliad blynyddol o brentisiaethau yn y DU. Mae’n dod â busnesau a phrentisiaid ynghyd i daflu goleuni ar yr effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau yn eu cael ar unigolion, busnesau a’r economi ehangach. Mae’n cyd-daro ag Wythnos Prentisiaethau Cymru (AWW) sy’n dathlu ac yn hyrwyddo prentisiaethau yng Nghymru fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd.
Llongyfarchiadau i’n prentisiaid disglair!
Fel rhan o ddathliadau Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022, fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe gynnal digwyddiad Gwobrau Prentisiaeth rhithwir ar ei sianeli’r cyfryngau cymdeithasol, Twitter a LinkedIn.
Nod y digwyddiad rhithwir yw tynnu sylw at y prentisiaid, y cyflogwyr a’r aseswyr gorau.
Annog busnesau Cymru i ailystyried strategaethau recriwtio ymysg argyfwng yn y gweithlu
Gan fod Wythnos Prentisiaethau Cymru ar y gweill (7-13 Chwefror), mae busnesau Cymru yn cael eu hannog i ailystyried strategaethau recriwtio presennol er mwyn rheoli gweithluoedd y dyfodol yn y ffordd orau.
Mae Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe a Vaughan Gething, y Gweinidog dros yr Economi, yn gofyn i fusnesau Cymru ystyried recriwtio prentisiaid mewn ymgais i lenwi swyddi gwag.
Wythnos Prentisiaethau Cymru – swyddi gwag cyfredol a sesiynau gwybodaeth
Mae prentisiaethau yn ffordd wych o gael cymwysterau wrth i chi weithio ac ennill cyflog.
Coleg Gŵyr Abertawe - partner addysgol cyntaf Cymdeithas Ffasiwn a Thecstilau’r DU yng Nghymru
Roedd y prentisiaid ffasiwn a thecstilau cyntaf yng Nghymru wedi llwyddo i ennill eu cymhwyster y llynedd yng Ngholeg Gower Abertawe, gyda mwy ohonynt i ddilyn eleni.