Yn cyflwyno cyfres unigryw o gyrsiau Marchnata Digidol newydd!
Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch iawn o gyhoeddi ystod o gyrsiau undydd mewn marchnata digidol (wedi’u hariannu’n llawn). Mae’r cyrsiau’n addas ar gyfer unigolion 19+ sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe.
Bwriad y cyrsiau byr yw rhoi’r sgiliau hanfodol i ddysgwyr sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y gymdeithas ddigidol ddeinamig sydd ohoni. Byddant yn derbyn mewnwelediadau gweithredadwy a gwybodaeth ymarferol sy’n hollbwysig ar gyfer llwyddo yn y byd digidol.