Skip to main content

Cyrsiau Datblygu Proffesiynol

Rydyn ni’n falch o gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau datblygu proffesiynol gyda’r nod o gynorthwyo unigolion a chyflogwyr. Gydag opsiynau’n rhychwantu meysydd pwnc a lefelau achrediad amryfal, mae ein rhaglenni yn hyblyg a gallwn eu teilwra i ateb anghenion amrywiol y dysgwr a’r cyflogwr. Mae cyrsiau’n rhedeg drwy gydol y flwyddyn ac mae opsiynau wedi’u hariannu’n llawn neu â thâl ar gael, gan sicrhau mynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel ni waeth beth yw’ch man dechrau.

I unigolion, mae ein cyrsiau’n cynnig cyfle i uwchsgilio, magu hyder, a gwella cyfleoedd o ran dilyniant gyrfa mewn marchnad swyddi cystadleuol. I gyflogwyr, mae buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol yn helpu i adeiladu gweithlu mwy galluog, brwdfrydig, gan wella cynhyrchedd, cyfraddau cadw, a pherfformiad busnes hirdymor.

Courses

Eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau

Fel myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, bydd gennych fynediad llawn at ein staff profiadol sy’n gallu rhoi cyngor i chi ar gyrsiau, gyrfaoedd, cyflogadwyedd, materion personol neu faterion ariannol.

Rydym hefyd yn cynnig cymorth arbenigol, megis help i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, arweiniad ar gyllid, adnoddau i ddatblygu’ch hyfedredd yn yr iaith Gymraeg, a mwy.

Mwy am Gymorth