Skip to main content

Taith greadigol myfyrwyr Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau

Yn ystod y Gwobrau Blynyddol yr wythnos diwethaf roedd myfyrwyr effeithiau arbennig theatrig, gwallt a cholur y cyfryngau y Coleg wedi synnu gwesteion gyda’u harddangosfa syrcas arswyd.

Oherwydd y cyfuniad o golur effeithiau arbennig cymhleth, dyluniadau gwallt cyfareddol a pherfformiadau swynol daeth y syrcas hunllefau yn fyw.

Hwn oedd prosiect terfynol y flwyddyn i’r myfyrwyr prysur. O drawsnewidiadau cyfareddol yng nghynyrchiadau theatr y Coleg i ymddangosiadau swynol mewn confensiynau, mae’r myfyrwyr hyn wedi arddangos eu creadigrwydd a’u doniau diderfyn.

Prentis trin gwallt yn mynd i Wythnos Ffasiwn Llundain

Mae prentis Trin Gwallt o Gorseinon wedi cael blas ar y ‘bywyd bras’ yn ystod Wythnos Ffasiwn Llundain, diolch i’w chysylltiadau â Choleg Gŵyr Abertawe.

Mae Lucy Britton, sy’n astudio tuag at NVQ Lefel 2 yng Nghanolfan Broadway y coleg, wedi bod yn gweithio’n amser llawn yn The Hair Lounge yn Fforestfach am y flwyddyn ddiwethaf. Mae perchennog y salon, Marc Isaac, hefyd yn cael ei gyflogi gan y coleg fel tiwtor / aseswr trin gwallt.

Llongyfarchiadau i Kaitlyn am lwyddiant Salon Cymru

Mae’r fyfyrwraig harddwch Kaitlyn Hole, sy’n astudio’r cwrs rhan-amser Tystysgrif mewn Colur Cosmetig yng Nghanolfan Broadway wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth flynyddol Salon Cymru (categori Lefel 2 Colur).

"Dw i wrth fy modd gyda’r canlyniad ac yn falch dros Kaitlyn," dywedodd y darlithydd Cathy Mitchell. "Roedd yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn y gystadleuaeth yn wych – o ran eu gwaith caled cyn y digwyddiad a’r gwaith ardderchog a wnaethon nhw ar y diwrnod."

Diolch i Hyfforddiant ISA am y llun.

Tagiau

Digwyddiad gwallt a harddwch yn ysbrydoli gweithwyr proffesiynol y diwydiant

Yn ddiweddar roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal noson i ddathlu ac ysbrydoli talent Cymru ar draws y sector trin gwallt a harddwch.

Roedd staff, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol lleol o’r byd diwydiant yn bresennol yn y dosbarth meistr trin gwallt a choluro ym Mhlas Sgeti. Roedden nhw wrth eu boddau gyda’r arddangosiadau ymarferol gan gyfarwyddwr y salon (a chyn-fyfyriwr) Casey Coleman a Chris Howells, artist coluro rhyngwladol i Laura Mercier.

Cantores / ysgrifennwr caneuon yn perfformio gig arbennig i’r myfyrwyr

Daeth y gantores / ysgrifennwr caneuon - a sêr rhaglen The Voice y BBC – Bronwen Lewis i ymweld â champws Tycoch Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar.

Roedd Bronwen wedi cwrdd â myfyrwyr Gwallt a Harddwch cyn perfformio rhai o ganeuon o'i halbwm newydd, Pureheart.

Cafwyd dangosiad arbennig o'r ffilm Pride hefyd, y mae Bronwen ei hun yn ymddangos ynddi. Yn seiliedig ar stori wir, mae Pride yn adrodd hanes grŵp o ymgyrchwyr lesbiaid a hoyw a gododd arian i helpu'r teuluoedd a gafodd eu heffeithio gan streic y glowyr yn 1984.

Tagiau

Coleg yn croesawu cymal rhanbarthol Trin Gwallt Cystadleuaeth Sgiliau Cymru

Yn ddiweddar cynhaliwyd rownd derfynol ranbarthol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru mewn Torri a Lliwio Uwch (trin gwallt) yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Roedd cynllunwyr gwallt ar draws De Cymru wedi ymgynnull yng Nghanolfan Trin Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway i ddangos eu doniau gan ddefnyddio’r siswrn a’r chwistrell.

Ymhlith y panel o feirniaid oedd gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant gan gynnwys Mike Morgan Swinhoe o M’s International, Lara Johnson, Vicky Jones o Unique Hair Design a’r cyfarwyddwr salon a’r cyn-fyfyriwr Casey Coleman.