Skip to main content

Coleg Gŵyr Abertawe yn cyrraedd rhestr fer yng Ngwobrau Symudedd Cymdeithasol y DU 2024

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer categori Ysgol/Coleg y Flwyddyn yn wythfed Gwobrau Symudedd Cymdeithasol blynyddol y DU.

Cafodd y gwobrau eu creu i gydnabod a dathlu sefydliadau blaengar sy’n hybu newidiadau cymdeithasol i weithwyr a’u cymunedau, trwy ymgorffori symudedd cymdeithasol yn eu strategaethau busnes craidd. 

Coleg yn cyflwyno prentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o gyhoeddi argaeledd prentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol newydd sbon, gan ehangu ein darpariaeth prentisiaeth arobryn ymhellach.

Wedi’i hachredu gan Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX), mae’r rhaglen hynod ymarferol hon sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd yn rhoi modd i ymgeiswyr ddilyn amrywiaeth o rolau o fewn y sector cyfreithiol, gan gynnwys Paragyfreithiwr, Cynorthwyydd Cyfreithiol, Swyddog Gweinyddol Cyfreithiol ac Ysgrifennydd Cyfreithiol.

Cyfle cyffrous i gyflogwyr: digwyddiad galw heibio ar brentisiaethau

A ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno recriwtio prentis? Ydych chi am ddysgu mwy am sut y gall prentisiaethau fod o fudd i’ch busnes? Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad galw heibio ar brentisiaethau i gyflogwyr.

Bwriad y digwyddiad yw rhoi cyfle i gyflogwyr ymgysylltu yn uniongyrchol â’n harbenigwyr, gan ddysgu mwy am y cymorth prentisiaethau helaeth sydd ar gael yn y Coleg. 

Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill dwy wobr InsideOut

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi ei lwyddiant go arbennig yn seremoni wobrwyo InsideOut yr wythnos diwethaf, a gynhaliwyd yn y Troxy, Llundain. 

Fe wnaeth y Coleg sicrhau dwy wobr nodedig a derbyn cydnabyddiaeth Canmoliaeth Uchel yn y digwyddiad gwobrwyo iechyd meddwl blynyddol, a bwerwyd gan Uwchgynadleddau InsideOut LeaderBoard a Lles yn y Gwaith.

Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill Gwobr AoC am Ehangu Cyfranogiad 23/24

Yn ddiweddar fe enillodd Coleg Gŵyr Abertawe wobr AoC am Ehangu Cyfranogiad yn Noson Wobryo Beacon Cymdeithas y Colegau.

Mae cannoedd o geisiadau’n cael eu cyflwyno o sefydliadau ledled y wlad bob blwyddyn, ac mae Gwobrau Beacon yn wobrau clodfawr tu hwnt ym maes addysg bellach. Mae’r digwyddiad wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers 29 o flynyddoedd.

Mae’r gwobrau yn gyfle i ddathlu arferion gorau a mwyaf arloesol colegau addysg bellach ac maent yn gydnabyddiaeth o’r effaith y mae colegau yn ei gael ar fyfyrwyr a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Noson agored a sesiynau gwybodaeth Wythnos Prentisiaethau Cymru

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ddathliad sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn dangos pam mae prentisiaethau yn benderfyniad athrylithgar i unigolion, cyflogwyr a gweithlu’r dyfodol.

Eleni, mae WP Cymru yn rhedeg o ddydd Llun 5 i ddydd Sul 11 Chwefror, ac mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i egluro a dathlu prentisiaethau:

Coleg Gŵyr Abertawe yn Arwain y Ffordd gyda Phrentisiaeth Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr unigryw

Daw Coleg Gŵyr Abertawe i’r amlwg unwaith eto fel sefydliad addysgol blaengar, wrth iddo lansio llwybr prentisiaeth newydd sbon mewn Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr (DCD), gan sefydlu ei hun fel y darparwr cyntaf a’r unig ddarparwr yng Nghymru sy’n cynnig y rhaglen arloesol hon. Gydag ymroddiad i arloesi a meithrin talentau, mae’r Coleg yn nodi carreg filltir arwyddocaol trwy gyflwyno cwricwlwm sy’n cyd-fynd â gofynion diwydiannau cyfoes.

Coleg yn cyflwyno prentisiaeth arloesol newydd Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o gyhoeddi argaeledd llwybr prentisiaeth newydd sbon o’r enw Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr. Dyluniwyd y llwybr newydd hwn i ateb anghenion cyflogwyr a bylchau sgiliau yn yr ardal leol, gan roi modd i ddysgwyr ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol wrth weithio a dysgu.