Coleg yn croesawu ysgolion lleol ar gyfer sioe deithiol cogyddion
Roedd 120 o ddisgyblion o chwe ysgol yn Abertawe wedi mwynhau diwrnod blasu lletygarwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ddydd Mawrth 14 Mawrth.
Trefnwyd yr achlysur arbennig rhad ac am ddim gan The Chefs’ Forum ac roedd yn gyfle i’r Coleg groesawu disgyblion ysgol a rhoi blas iddynt ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl ar gwrs arlwyo.
“Rydyn ni’n galw’r achlysur yn gipolwg ar fyd y diwydiant lletygarwch,” dywedodd Cyfarwyddwr The Chef’s Forum Catherine Farinha. “Cawson ni amrywiaeth gwych o ben-cogyddion a gweithwyr proffesynol blaen y tŷ. Roedd y myfyrwyr wedi mwynhau mas draw!”